17th November 2010 2012 – Chwaraeon Amgen y Byd 2012

2012 – Chwaraeon Amgen y Byd 2012

Tra bydd dinas fwyaf Prydain yn croesawu Chwaraeon Olympaidd 2012, bydd tref leiaf Prydain yn gorffen paratoadau ar gyfer Chwaraeon Amgen Cyntaf y Byd. Bydd y Chwaraeon hyn yn amlygu cyfres o ddigwyddiadau amgen, llawn dychymyg, creadigol, i’w cynnal yn Llanwrtyd, Canolbarth Cymru, ochr yn ochr â’r digwyddiadau awyr agored, mympwyol, llawn hwyl, presennol fel Snorcelu’r Gors a Marathon Dyn yn erbyn Ceffyl sy’n enwog eisioes.

Bydd Chwaraeon Amgen y Byd yn cymryd lle yn ystod Awst/Medi 2012. Tra bydd llygaid y byd ar Brydain a byd chwaraeon. Byddwn yn dal dychymyg y cyhoedd a llygaid y cyfryngau i hyrwyddo chwaraeon anhysbys a’u chwaraewyr. Bydd gan y llysgenhadon chwaraeon anenwog hyn lwyfan y byd i arddangos eu talentau a chyfle i brofi eu hymroddiad i’r chwaraeon gwir amgen hyn.

Bydd Chwaraeon Amgen y Byd yn hyrwyddo ‘Ysbryd Corinthaidd’ pan fydd cymryd rhan yn fwy pwysig nag ennill a phryd y cydnabyddir a chymeradwyir cyflawni personol.

Gallwch ddilyn datblygiadau Chwaraeon Amgen y Byd ar y a cyfryngau neu drwy ymweld â:

www.worldalternativegames.co.uk